03/03/2017

Croeso Cymunedol i Deuluoedd o Syria


Mae cynllun y llywodraeth o'r enw 'Nawdd Cymunedol' yn caniatáu i ni ddod â dau neu dri theulu awdurdodedig sy’n ffoi rhag rhyfel Syria i gartref diogel yn Aberteifi. Byddwn yn cwrdd â nhw yn y maes awyr ac yn darparu cartref a chynllun integreiddio. Gallant weithio o'r diwrnod cyntaf, a chael yr un budd-daliadau a chefnogaeth â theulu Prydeinig, am bum mlynedd. Gallant wedyn wneud cais i aros yma os dymunant, neu ddychwelyd i Syria os bydd yn briodol. Mae gennym gyfieithwyr, ysgolion, athrawon, cartrefi a ffrindiau yn barod ar eu cyfer.


Mae cynllun y llywodraeth yn mynnu bod digon o arian yn ein helusen er mwyn dangos ein bod yn gallu gwneud y gwaith yn dda. Mae angen i ni godi £9,000 i achub teulu. Os hoffech chi roi neu helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni

 Mae Nawdd Cymunedol:


·          ar wahân i gynlluniau'r llywodraeth


·          yn cael ei ariannu a’i redeg gan y gymuned


·          yn cael ei fonitro gan y Swyddfa Gartref


·          yn arloesol: mae hyn yn ffordd newydd i fynd i'r afael â heriau mewnfudo a ffoaduriaid yn y DU


·          wedi’i fodelu ar gynllun noddi cymunedol Canada sydd yn boblogaidd a llwyddiannus ac sy’n rhedeg ers 40 mlynedd.


·          yn agored i’r gymuned gyfan. Cysylltwch os hoffech helpu mewn unrhyw ffordd


·          yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol a gwasanaethau cyhoeddus


·          yn lledaenu i trwy Gymru
   

No comments:

Post a Comment