10/05/2018

Newyddion a "Human Cargo" Theatr Mwldan

Mae'r teulu cyntaf o Syria yn Aberteifi yn hapus ac yn ymgartrefu'n dda. Mae'r rhieni yn gwirfoddoli ac yn dysgu Saesneg yn gyflym, ac mae gan dîm pêl-droed Maes Glas geidwad gôl newydd!

Hoffech chi helpu i groesawu ail deulu? Os felly, cysylltwch â ni. Bydd arnom angen ystod o sgiliau o gyfeillio i addysgu Saesneg i rieni neu blant, i gadw pawb mewn trefn! Rydym hefyd yn chwilio am unrhyw siaradwyr Arabeg gydag ychydig o amser i'w sbario.

Byddwn ni yn Theatr Mwldan ar noson ‘Human Cargo’ os hoffech chi ddod i siarad â ni a chael mwy o wybodaeth

Mae’r adroddwr stori a’r cantor Matthew Crampton yn cyflwyno addasiad newydd o’i lyfr clodfawr Human Cargo: Stories & Songs of Emigration, Slavery and Transportation. Yn gydweithrediad ysbrydoledig, mae’n uno Matthew ag enw mawr cerddoriaeth draddodiadol America sef Jeff Warner. Gyda’i gilydd byddant yn taflu goleuni newydd ar ymfudiad dynol, gan roi llais i’r bobl ar y llongau caethweision a’r cychod ymfudo ac, yn hanfodol, yn fframio pwnc llosg yr oes sydd ohoni gan ddefnyddio hanes a dynoliaeth. Bydd pob perfformiad hefyd yn cynnwys straeon a ymchwilir yn lleol, fel rhan o brosiect Parallel Lives. Disgwyliwch noson yn llawn difyrrwch



Mae’r sioe yn ymgorffori straeon lleol am fudo (i mewn ac allan), sy’n ffurfio rhan o brosiect Parallel Lives: http:// thetransportsproduction.co.uk/ parallel-lives
gwelwch fod straeon hanesyddol a modern o Aberteifi a’r cyffiniau wedi eu cynnwys a byddant yn rhan o’r sioe ar y noson.


archebu / book



No comments:

Post a Comment