02/02/2018

Diweddariad Croeso Teifi

Mae'n sbel hir ers ein diweddariad newyddion diwethaf.

Cyrhaeddodd y teulu cyntaf yng nghanol mis Tachwedd ac maent yn ymgartrefu'n rhyfeddol o dda. Dechreuodd y plant yn yr ysgol yn llawn amser ym mis Ionawr, yn dilyn diwrnodau blasu ym mis Rhagfyr ac maen nhw’n ei mwynhau.
 
Mae tad y teulu yn gwirfoddoli yn rheolaidd mewn caffi ac mewn mannau eraill pan mae'n gallu; mae’r  fam yn dysgu Arabeg i grŵp bach yn wirfoddol, unwaith yr wythnos. Mae lle i ychydig mwy os ydych chi'n dymuno dysgu'r iaith hon sy’n gyfareddol o wahanol *.

Cyflwynwyd aelodau'r teulu i Tambourine Tots, nofio, karate a phêl-droed, ymweliadau â'r parc bywyd gwyllt, gig yn y Cellar Bar, a Sioe Nadolig yr ysgol. Cymeron nhw i gyd ran yng ngorymdaith Llusernau Aberteifi, ar ôl iddynt wneud llusernau yng Nghanolfan Byd Bychan.
 
Bydd CCB Croeso Teifi, ac yna ddigwyddiad cymdeithasol, fis Mawrth 6ed am 7.30pm yn Neuadd y Santes Fair. Bydd croeso i holl gefnogwyr Croeso Teifi. Caiff y gwahoddiad ffurfiol ei e-bostio yn ddiweddarach gyda'r holl wybodaeth ofynnol.
 
Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau'r broses o setlo ail deulu. Mae rhai o'r tîm yn camu yn ôl am seibiant [diolch am eich holl waith] felly rydym yn croesawu unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan. Gallai ail deulu ymgartrefu yn nhref Aberteifi neu mewn cymuned gyfagos. Mae gennym y rhan fwyaf o'r arian sydd ei angen ar gyfer yr ail deulu.
 
* ar gyfer dosbarth Arabeg, cysylltwch â Vicky ar 07791 809 810 vickymoller@btinternet.com
 
Nawdd yng Nghymru a'r DU.

Mae cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn Aberystwyth, Hwlffordd a llawer o rannau eraill o Gymru. Mae cylchlythyr o un cynllun ynghlwm. Rydym yn derbyn gwahoddiadau rheolaidd i gyfarfodydd yn Llundain a Chaerdydd i drafod a rhannu profiad. Os oes rhywun eisiau mynychu neu gael gwybod am y rhain, gadewch i Vicky wybod [* gweler uchod]. Fel arall, dyma rai gwefannau a grwpiau Facebook i rannu diweddariadau a gwybodaeth:








No comments:

Post a Comment