31/05/2017

Newyddion CROESO TEIFI

Erbyn hyn mae Croeso Teifi yn Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda'i Ymddiriedolwyr ei hun!

Ar adegau, mae’r daith yn teimlo’n ddiddiwedd, dim ond i gael y caniatâd angenrheidiol i gyflawni ein nod cymedrol o gynnal ychydig o deuluoedd o Syria yn Aberteifi.

Yn y dyddiau diwethaf rydym wedi pasio dwy garreg filltir bwysig. Daethon ni’n SEC - Sefydliad Elusennol Corfforedig a chyrraedd £10,200 yn ein cyfrif banc. Dau fis yn ôl roedd gennym £7,200. Yfory bydd gennym bron i £11,000.
 
Mae'r twf ariannol rhyfeddol hwn o ganlyniad i frwdfrydedd a haelioni llawer o bobl, pobl leol i gyd neu yn hysbys i ni. Ni fu unrhyw grantiau na chyllidwyr dorf eto.

Felly, gan ein bod wedi cyrraedd y cerrig milltir hyn, o'r diwedd gall yr awdurdod lleol yng Ngheredigion drefnu cyfarfod gyda ni, a gobeithio cawn eu cymeradwyaeth, ac wedyn gall cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref ddilyn. A’r amseru? Rydym yn dibynnu ar bobl eraill y gall eu hamseru fod yn anrhagweladwy, ond rydym yn gobeithio y cawn y cymeradwyaethau hyn o fewn 2-3 mis ac wedyn gallwn ddechrau chwilio am y teulu neu deuluoedd iawn ar gyfer Aberteifi.

Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi golygu llawer o waith - erbyn hyn mae gennym bolisïau o bob math, rydym yn mynd i lawer o hyfforddiant, weithiau mor bell â Llundain. Cawsom hyfforddiant ymwybyddiaeth trawma heddiw. Gwelsom ddau landlord llawn cydymdeimlad ac mae gennym dimau gyda chydlynwyr arweiniol ar gyfer pob agwedd ar y gwaith, mwy neu lai. Mae ychydig o swyddi gwag o hyd os ydych chi sy’n darllen hwn â rhywfaint o amser neu sgiliau i’w rhoi. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr ac mae perygl o flino bob amser: bydd ychydig o bobl i fynd i'r afael â phob tasg yn gwneud gwahaniaeth mawr.

E-bostiwch os gallwch chi helpu: info@croesoteifi.org

Ac mae angen cyrraedd carreg filltir ariannol arall i gynnal dau deulu.

Mae angen £18,000 i gyd. Mwy os bydd yr ail deulu’n un estynedig.

 
Ar ddydd Sadwrn Mehefin 24, rydym yn bwriadu cynnal bore coffi i roi gwybodaeth mewn neuadd eglwys gyda ffilm fach. Nid digwyddiad er mwyn codi fydd hwn, ond i drafod y prosiect, ceisio syniadau ar gyfer gwelliannau a rhannu ein gwybodaeth hyd yn hyn.

Os ydych chi eisiau helpu, wnewch ar bob cyfrif, ond sylwch y gall eich brwdfrydedd eich denu i mewn i wneud llawer o waith. Efallai y byddwch yn magu sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd annisgwyl. Gallech redeg ocsiwn neu gael cyfarfod gyda'r Swyddfa Gartref i ddweud wrthynt sut i wneud eu gwaith, neu blygu tocynnau raffl, neu ddysgu am iechyd meddwl, Excel neu Arabeg, neu wrando ar y Koran yn cael ei ganu yn yr heulwen.
 

Rwy wedi blino o hyd ar ôl fy sifft nos yn hwyr nos Sadwrn lle roedd rhaid i mi wrando ar ychydig o’r gerddoriaeth fwyaf trawiadol yng Nghymru, bwyta cawl, yfed gwin a gwneud pethau na fyddech yn meiddio eu gwneud mewn parti. [Noson Bara Menyn]




Rydym yn rhan o fudiad ehangach, ac yn enwedig yng Nghymru mae timau tebyg i ni yn datblygu cynlluniau tebyg yng Nghaerdydd, Aberystwyth, Abergwaun, Arberth, Hwlffordd. Disgwylir y teulu cyntaf a noddir yn gymunedol yng Nghymru ym mis Mehefin. Maent yn Cwrdiaid, sy’n lleiafrif yn eu gwlad gyda rhai traddodiadau gwych gan gynnwys cydraddoldeb rhwng dynion a menywod.

Os ydych yn teimlo'n ddewr neu wedi diflasu neu heb eich gwerthfawrogi neu yn hael, dewch i'n helpu ni, neidiwch i mewn a nofio; mae’r dŵr yn ffres ond yn hyfryd. Rhannwch ...

 
 

No comments:

Post a Comment